

mgylchedd y gall pawb ei fwynhau
Lleoliad ffyniannus ar gyfer byw’n llawn yn yr 21ain ganrif.
Swydd dda mewn gweithle modern a dymunol. Cartref cyfoes a chyfforddus mewn lleoliad deniadol.
Digon o gyfleusterau hamdden. Ymdeimlad gwirioneddol o gymuned. A lleoliad eang sy’n rhoi lle i chi ymlacio. Bydd Morlan Elli yn darparu hyn oll, a rhagor.
Rydym yn creu lle bywiog a modern lle gall pobl fwynhau gweithio, byw a chwarae ynddo. Amgylchedd lle mae adeiladau swyddfa lluniaidd a chyfoes, datblygiadau tai deniadol, yn ogystal â bwytai, bariau, theatrau bywiog a chyfoeth o gyfleusterau diwylliannol a hamdden eraill, yn eistedd yn gyfforddus gyda’i gilydd o amgylch ehangder o ddwr disglair a pharcdir gwyrdd hyfryd.
Cerddwch am rai munudau mewn un cyfeiriad a byddwch mewn canol tref ffyniannus. Cerddwch y ffordd arall a byddwch ym Mharc Arfordirol y Mileniwm, 22 o gilomedrau o arfordir sydd wedi’i adfer yn hyfryd sy’n rhoi golygfeydd syfrdanol o Benrhyn Gwyr, a llwybrau beicio heb draffig. Mae erwau o le lle gallwch gerdded, meddwl, anadlu, chwerthin - rhywle i ailddarganfod y pleserau syml hynny sydd wirioneddol yn gwneud bywyd yn werth ei fyw.


